Yn unol â'r ymrwymiad a nodwyd yng Nghynllun
Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, rydym wedi sefydlu Grŵp Gorchwyl
a Gorffen Iechyd Meddwl Lleiafrifoedd Ethnig. Pan gafodd ei
sefydlu, diben y grŵp gorchwyl a gorffen oedd cytuno ar gamau
diriaethol sy'n gallu gwella cymorth ar gyfer iechyd meddwl a
mynediad at wasanaethau ymhlith cymunedau lleiafrifoedd ethnig, ar
gyfer pob grŵp oedran.
Sefydlwyd y Grŵp Gorchwyl
a Gorffen am gyfnod o 12 mis yn wreiddiol, ond bydd yn parhau am
ddwy flynedd arall - gan chwarae rhan bwysig yn y gwaith o
lywio
datblygiad y Strategaeth Iechyd
Meddwl newydd i Gymru. Bydd y grŵp Gorchwyl a Gorffen yn
chwarae rhan bwysig yn y gwaith o sicrhau bod deddfwriaeth iechyd
meddwl newydd i Gymru yn adlewyrchu anghenion cymunedau ethnig
lleiafrifol.
Hefyd, bydd yn un o'r
rhanddeiliaid allweddol mewn trafodaethau a gwaith parhaus i
gyflwyno’r diwygiadau arfaethedig i’r Ddeddf Iechyd
Meddwl yng Nghymru, a datblygu'r Cod Ymarfer ategol i
Gymru.
Yn dilyn cyhoeddi'r Papur Gwyn
yn amlinellu diwygiadau arfaethedig i'r Ddeddf Iechyd Meddwl i
geisio cyflwyno argymhellion Adolygiad Wessely, fe aeth swyddogion
Llywodraeth Cymru ati i gynnal cyfres o drafodaethau gyda
rhanddeiliaid a phartneriaid yng Nghymru, gan gynnwys Grŵp
Gorchwyl a Gorffen Iechyd Meddwl Lleiafrifoedd Ethnig, i benderfynu
pa un o'r cynigion fyddai'n fuddiol i Gymru. Ar ôl y
trafodaethau hynny, ysgrifennodd Llywodraeth Cymru at yr
Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd yn Llywodraeth y DU i amlinellu
ein safbwynt ynglŷn â pha un o'r cynigion yr hoffem ei
ymestyn i Gymru a'i gynnwys mewn Bil Iechyd Meddwl
drafft.
Yn unol â Chonfensiwn
Sewel, mae'n debygol y bydd angen pasio Cynnig Cydsyniad
Deddfwriaethol yn y Senedd o hyd unwaith y bydd y Bil yn cael ei
gyflwyno yn unol ag adran 107(6) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a
Rheolau Sefydlog y Senedd.
Bydd argymhelliad terfynol
Llywodraeth Cymru i'r Senedd ynglŷn ag a ddylid pasio cynnig
o'r fath yn dibynnu ar a ydym yn fodlon â'r darpariaethau
terfynol yn y Bil.
Mae'r ddeddfwriaeth ddrafft
wedi bod yn destun craffu cyn deddfu yn Senedd y DU, a chyhoeddodd
y pwyllgor craffu perthnasol ei adroddiad ar 19 Ionawr 2023. Mae'r
argymhellion yn yr adroddiad hwnnw yn debygol o arwain at
newidiadau i'r Bil arfaethedig o’i gymharu â'r drafft
cyntaf. Bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio'n
agos gyda'u swyddogion cyfatebol yn Llywodraeth y DU i ystyried i
ba raddau y dylid cynnwys Cymru mewn unrhyw ddarpariaethau newydd
neu wahanol iawn sy'n dod i'r amlwg wrth i'r Bil gael ei ddatblygu
yn sgil adroddiad y pwyllgor.